Beth sydd rhaid i Gymru ei wneud
Mae’n rhaid bod yn ddoethach wrth ddefnyddio technoleg ddi-wifr.
Ymbelydredd di-wifr a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Rhydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y cyfle i Lywodraeth Cymru i weithredu polisïau er mwyn cyfyngu a lliniaru effeithiau ymbelydredd amledd radio ar ein hiechyd, ein lles ac ar yr amgyledd. Dywed gwyddonwyr blaenllaw yn y maes:
“the critical need to face difficult questions, make mid-course corrections, and try to repair the damage already done in this generation, and to think about protecting future generations.”
Dywedwyd mewn adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd (Ewrop) yn 2013, a oedd yn cynnwys pennod ar ddefnyddio ffonau symudol:
“Worryingly, warnings of impending hazards are, in many areas, still not being heeded and the resulting damage is far more widespread, geographically, across species and extending to future generations, who will particularly suffer many of the harmful effects of our current energy systems, chemicals and technologies.”
Egwyddor Datblygiad Cynaladwy
Y mae technolegau di-wifr yn anghydnaws ag egwyddor datblygiad cynaladwy a fabwysiadwyd ar gyfer deddf Lles Cenhedloedd y Dyfodol. Dywedir yn y ddeddf y dylid cymhwyso anghenion tymor- byr ag anghenion hir-dymor, yn enwedig pan fod gweithredoedd i ateb anghenion tymor-byr yn cael effaith andwyol yn yr hir-dymor. Dengys ymchwil wyddonol bod ymbeledredd amledd radio ar lefelau a ganiateir heddiw, yn cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd.
Cymru iachach
Y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn diffinio Cymru iachach fel “cymdeithas ble y mae lles meddyliol a chorfforol pobl yn cael eu huchafu a ble y deallir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.”
Dylai unigolion wneud penderfyniadau ar ôl dysgu am y dystiolaeth wyddonol a’r cyngor meddygol sydd ar gael ac nid y dystioaleth a’r cyngor sydd wedi’u gwyrdroi o dan bwysau gwleidyddol a masnachol. Dylai’r Cymry gael gwybod am unrhyw beryglon yn ymwneud ag ymbelydredd amledd radio a allai effeithio ar eu hiechyd a chael cyngor am sut i ddefnyddio technoleg ddi-wifr yn ddoeth. Er enghraifft, y mae’r rhan fwyaf o rieni’n anymwybodol bod Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori plant o dan 16 i ddefnyddio ffonau symudol pan fo angen yn unig a chadw’r galwadau’n fyr, oherwydd nid yw’r cyngor hwn yn cael ei hyrwyddo.
Cymru Wydn
Y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn diffinio Cymru wydn fel “cenhedlaeth sy’n cynnal a gwella amgylchedd bioamrywiol naturiol gydag ecosystemau iachus sy’n gweithredu i gefnogi cydnerth cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid (megis newid hinsawdd).” Er mwyn bod yn wydn ni ddylai Cymru ganolbwyntio ar seilweithiau technolegol anghynaliadwy fel rhwydweithiau di-wifr fel y maent ar hyn o bryd. Bydd gweithredu i geisio gwella pethau yn y dyfodol yn gostus iawn ac felly y maen’n bwysicach i wneud penderfyniadau synhwyrol nawr yn sgil y dystiolaeth wyddonol sydd ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â’r effeithiau ar iechyd y cyhoedd. Byddai osgoi llygredd amgylcheddol fel ymbelydredd amledd radio yn gwneud Cymru’n fwy gwydn fel cenedl a galluogi’r bobl a’r amgylchedd naturiol i flodeuo yn y blynyddoedd i ddod.
Gyda chydnerth mewn golwg, y mae’n rhaid cymeradwyo prosiect Cymru Cyflym Iawn Llywodraeth Cymru sy’n darparu band eang cyflym trwy geblau ffibr optig – yn hytrach na thrwy dechnoleg ddi-wifr – i bob cymuned yng Nghymru. Yr ydym yn annog Llywodraeth Cymru i wirio seilweithiau band eang Cymru yn y dyfodol gan barhau i roi blaenoriaeth i ddarparu cysylltiad y We ffibr cyflym iawn i bob tŷ a busnes yng Nghymru yn lle di-wifr.
Cymru Ddoethach
Y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn am weithredu Penderfyniad Cyngor Ewrop 1815, yng Nghymru.
(Noder: Nid yw Cyngor Ewrop yn gorff yr Undeb Ewropeaidd. Mae 47 talaith yn aelodau, ac mae’r DU yn un ohonynt, a’i brif achosion yw hawliau dynol, democratiaeth a chyfiawnder.)
Teitl “The potential dangers of electromagnetic fields and their effect on the environment”, Mabwysiadwyd penderfyniad 1815 gan Gynulliad Cyngor Ewrop ym Mai 2011.
Hoffwn weld Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r mesurau canlynol, yn ôl yr argymelliadau a osodwyd ym Mhenderfyniad 1815:
- amddiffyn y Cymry rhag ymbelydredd amledd radio.
- addysgu’r Cymry, yn enwedig plant, arddegwyr a phobl ifanc am y peryglon o ddefnyddio ffonau symudol a dyfeisiau eraill sy’n achosi ymbelydredd amledd radio.
- datblygu o fewn gweinidogaethau gwahanol yng Nghymru (addysg, yr amgylchedd, ac iechyd) ymgyrchoedd ar gyfer athrawon, rhieni, a phlant i’w rhybuddio am y peryglon penodol sy’n gysylltiedig â defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau eraill sy’n allyrru ymbelydredd amledd radio.
- ymgyrchoedd er mwyn rhoi gwybodaeth i athrawon, rhieni a phlant ynglŷn â’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau eraill sy’n allyrru ymbelydredd amledd radio.
- darbwyllo ysgolion yng Ngymru i ddefnyddio dyfeisiau gyda gwifrau yn hytrach na rhai di-wifr, a rheoleiddio’r defnydd o ffonau symudol gan blant yn yr ysgol.
- codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r peryglon sy’n gysylltiedig â defnyddio fffonau di-wifr, monitorau babanod ac offer eraill yn y cartref sy’n allyrru curiad tonnau parhaol, os yw offer trydanol yn cael eu gadael wrth law, a dylid argymell defnyddio ffonau gyda gwifrau gosodedig, neu fodelau sydd ddim yn allyrru curiad tonnau parhaol.
- gosod mesurau i atal effeithiau drwg midrodonnau mewn lleoedd o dan do yng Nghymru, ni ddylent fod mwy na 0.6 folt ymhob medr, a cheisio lleihau hyn i 0.2 folt ymhob medr.
- terfynu unrhyw safleoedd newydd yng Nghymru sydd ag antenâu GSM, UMTS, WiFi neu WIMAX, dylai’r safleoedd hyn fod yn atebol ac ymgynghori ag awdurdodau’r llywodraeth leol, trigolion lleol a dinasyddion sy’n pryderu.
- hybu ymchwil yng Nghymru er mwyn datblygu telathrebiaethu wedi’u selio ar dechnolegau eraill yr un mor effeithlon ond y mae eu heffeithiau’n llai negyddol ar yr amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd (gallai Cymru arwain yn hyn o beth).
- rhoi sylw arbennig i bobl ‘electrosensatif’ sy’n dioddef o syndrom lle nad ydynt yn gallu dioddef meysydd electromagnetig, a dylid cyflwyno mesurau arbennig i’w hamddiffyn, gan gynnwys creu ardaloedd yng Nghymru lle nad oes rhyngweithiau di-wifr.
Y mae ein nodau eraill yn cynnwys annog Llywodraeth Cymru i:
- gyflwyno motatoriwm yng Nghymru pan fydd 5G yn dechrau oherwydd credwn fydd hyn yn gamgymeriad gan y bydd yn cael effaith andwyol yn nhermau economeg a iechyd.
- gyflwyno motatoriwm yng Nghymru pan osodir mesuryddion clyfar, neu esbonio i’r Cymry nad oes rhaid iddynt gael mesurydd clyfar yn eu cartrefi. Unwaith i fesurydd clyfar gael ei osod yn y catref, yna ni ellir newid i fesurydd analog.
- ariannu ysgolion yng Nghymru sydd yn dibynnu ar rwydweithiau di-wifr er mwyn cysylltu â’r We ar hyn o bryd, fel eu bod yn gallu cael sysytem gwifredig. Gallai hyn greu nid yn unig ysgol iachach ond cysylltiad cyflymach â’r We.
- gael gwared ar rwydweithiau di-wifr mewn ysbytai yng Nghymru.
- fesur a chyhoeddi lefelau ymbelydredd amledd radio’n aml mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn gostwng yn hytrach na chodi (y mae effaith gronnus ymbelydredd amledd radio yn achosi pryder).
- sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhoi offer arbennigol i’r cyhoedd i fesur lefelau ymbelydredd amledd radio yn eu cartrefi.
- sicrhau bod y sawl sydd wedi datblygu electrosensitifrwydd yn cael eu cefnogi, amddiffyn a’u darparu â lleoedd diogel i fyw.
- rfynnu bod pob cwrs meddygol yng Nghymru yn cynnwys modiwl ar electrosensitifrwydd a pheryglon effeithiau ymbelydredd amledd radio.
Noder: Tra bod Llywodraeth Cymru’n ceisio cael gwared ar fannau lle na ellir dderbyn band eang, credwn fod y lleoedd hyn yn hanfodol er mwyn datblygu economi newydd ble all twristiaid ddianc rhag y We.
Gadewch i ni fod yn ddoethach ynglŷn â di-wifr.
Fel yn yr achos o newid hinsawdd, os nad ydym yn gweithredu i leihau effeithiau ymbelydredd amledd radio bydd hyn yn siwr o greu trafferthion yn y dyfodol. Os nad yw Llywodraeth Cymru’n gweithredu yna bydd hynny’n groes i Ddeddf Lles Cenhedloedd y Dyfodol. Dylai iechyd a lles y Cymry – yn enwedig y plant – gymryd blaenoriaeth dros gyfleuster a dros elw’r diwydiant di-wifr.<.p>
Byddai gosod polïsau i leihau effeithiau peryglus ymbelydredd amledd radio yn help i wella iechyd a lles y Cymry. Byddai hefyd yn ein helpu i fod yn fwy cynhyrchiol a gwella ein bywiogrwydd diwyllianol a chreadigol.
Gofynnwn am eich cefnogaeth i greu Cymru iachach, mwy diogel, mwy cynaladwy a mwy cynhyrchiol.