Y Broblem
Gall ymbeledredd achosi niwed i’ch iechyd. Nid yw hyn yn hysbys.
Nid yw di-wifr yn ddiniwed
Defnyddia dyfeisiau (ffonau symudol, gluniaduron, tabledi, mesuryddion clyfar, ffonau di-wyfr, monitorau ar gyfer babanod, ac ati) ymbelydredd amledd radio meicrodonfedd i drawsyrru gwybodaeth. Prif ffynhonnellau ymbelydredd mewn amgylcheddau modern yw technolegau di-wifr. Mae’r ffynhonnellau hyn yn cynyddu’n gyson o ran niferodd a chryfder maes.
Dywed corff ymchwil wyddonol bod effeithiau hir-dymor ymbeledredd amledd radio ar iechyd yn niweidiol. Mae’r dystiolaeth o’r effeithiau niweidiol ar iechyd a’r amgylchedd yn cynyddu, sut bynnag yn ôl yn y 1930au, cofnodwyd effeithiau biolegol ymbelydredd a wnaethpwyd gan ddyn.
Y mae lefelau diogel presennol yn ein hamddiffyn rhag gwres dros-dro (h.y. thermol) ac effeithiau sioc ond nid ydynt yn ein hamddiffyn rhag effeithiau biolegol a all ddigwydd pe bai lefelau isel o ymbelydredd biolegol. Nid ydynt yn ystyried lefelau o ymbelydredd biolegol dros amser chwaith.
Effeithiau ar iechyd unigolion
Yn 2015 arwyddodd 200 o wyddonwyr Apêl Gwyddonwyr Rhyngwladol EMF, gan ofyn i’r Cenhedloedd Unedig annog Cyfundrefn Iechyd y Byd i hybu mesurau rhagofalol a datblygu mwy o ganllawiau i addysgu’r cyhoedd am ddiogelu eu hiechyd, yn enwedig y niwed a ellid ei achosi i blant a datblygiad y ffetws. Dywedodd yr Apêl fod effeithiau ymbelydredd amledd radio yn cynnwys:
- y perygl o ddatblygu cancr
- niwed genetig
- newidiadau adeileddol a swyddogaethol i’r system atgynhedlu
- diffygion cof a dysgu
- anrhefn niwrolegol
- straen ar y celloedd
- cynnydd yn y rhyddfrydwyr rhydd niweidiol
- effeithiau negyddol ar les cyffredinol pobl
Hefyd, awgrymodd yr Apêl nad yw’r niwed yn cael ei gyfyngu i iechyd pobl: “Y mae’r niwed yn mynd ymhellach na dynolryw, gan fod tystiolaeth yn cynyddu sy’n dangos effeithiau niweidiol ar blanhigion ac anifeiliaid.”
Cancr
Ni ŵyr y rhan fwyaf o bobl fod yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cancr (IARC), rhan o Gyfundrefn Iechyd y Byd, wedi datgelu yn 2011 bod amledd radio’n garsinogenig i ddynolryw.
Seliwyd hyn ar y perygl cynyddol o glioma, math adwythig o gancr ar yr ymennydd. Yn ôl yr elusen Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd, y mae tiwmorau’n lladd mwy o blant ac oedolion o dan 40 nag unrhyw gancr arall. Hefyd dengys data crai diweddar fod glioblastoma multiforme, y math mwyaf peryglus o gancr ar yr ymennydd (math o glioma), yn cynyddu yn y DU. Gwelwyd mwy o bobl yn dioddef o’r clefyd rhwng 1985 a 2014. (Ffynhonell: microwavenews.com/short-takes-archive/changing-mix-uk-bts). Efallai bod perygl ymbelydredd amledd radio yn effeithio ar y tueddiadau hyn..
Nododd Asiantaeth yr Amgylchedd (Ewrop) ddiffyg cyngor rhagofalol y llywodraeth ar gyfer dinasyddion ynglŷn â’r defnydd o ffonau symudol yn dilyn honiadau’r Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Cancr:
“It is remarkable that the IARC carcinogenic classification does not seem to have had any significant impact on governments’ perceptions of their responsibilities to protect public health from this widespread source of radiation, especially given the ease with which exposures can be reduced (i.e. texting, handsfree devices and better phone design).”
Gorsensitifrwydd Electro
Y mae Gorsensitifrwydd Electro’n gyflwr sy’n achosi pobl i gael adweithiau adfydus i feysydd electro magnetig, yn enwedig ar ffurf ymbelydredd meicro-donnau o ddyfeisiau di-wifr. Y mae hyn yn gwneud bywyd yn anodd yn yr oes sydd ohoni gan fod y byd yn ddi-wifr, a gall hyn allgau pobl yn gymdeithasol. Mae’r symptomau cyffredin yn cynnwys:
- pennau tost
- diffyg cwsg
- colli cof ac anghofrwydd
- problemau’n canolbwyntio
- teimlo’n anniddig
- tinnitus
- cochni yn yr wyneb a’r teimlad o losgi
- dychlamiadau a phoenau yn y fron
- diffyg traul
- teimlo’n flinedig yn gyson ac yn ddi-hwyl
(Noder: Ystyrir bod popeth sy’n fyw yn gallu bod yn ‘electro sensitif’, ac y mae llawer o brosesau biolegol yn dibynnu ar feysydd bach electro magnetig. Felly, nid yw’n syndod bod meysydd electro magnetig yn gallu effeithio ar ein bioleg neu bod rhai’n orsensitif i feysydd electro magnetig a grëwyd gan ddyn. Y mae Gorsensitifrwydd Electro yn gyflwr ffisolegol ac ni ddylai gael ei gymysgu gyda ffobia electro, cyflwr seicolegol.)
Am fwy o wybodaeth, argymellwn eich bod yn cysylltu â gwefannau’r elusenau Electrosensitivity UK a PHIRE. Gan nad yw meddygon wedi cael eu hyfforddi i drin gorsensitifrwydd electro, yn aml dywedir bod cleifion yn dioddef o fibromyalagia, gorflinder, straen neu iselder yn lle. Sut bynnag, gallai lleihau ymbelydredd amledd radio yn y cartref wella’r symptomau a gwella lles.
Ymbiliwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni a chenhedloedd y dyfodol yng Nghymru yn byw mewn amgylchedd diogel, iachus a chynaladwy.