Y Wyddoniaeth
Pam nad yw’r peryglon yn hysbys?
Amheuwyr
Gwelwyd bod technoleg ddi-wifr fel y mae ar hyn o bryd yn gallu achosi perygl i’ch iechyd, efallai eich bod yn meddwl pam nad ydych wedi clywed am hyn gan y llywodraeth neu unrhyw gorff cyhoeddus. Sut bynnag, gwyddwn fod y llywodraeth neu gyrff iechyd cyhoeddus yn aml yn araf i dderbyn tystiolaeth sy’n dangos unrhyw niwed gan gemegyn newydd neu dechnoleg, ac yn aml ni chredir bod angen cymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd, yn enwedig pan fod biliynau o bunnoedd o elw yn y cwestiwn. Dywedwyd yn nadansoddiad Cyngor Ewrop ym 1815 bod elw yn aml yn fwy pwysig na diogelwch y cyhoedd:
“The Assembly regrets that, despite calls for the respect of the precautionary principle and despite all the recommendations, declarations and a number of statutory and legislative advances, there is still a lack of reaction to known or emerging environmental and health risks and virtually systematic delays in adopting and implementing effective preventive measures. Waiting for high levels of scientific and clinical proof before taking action to prevent well-known risks can lead to very high health and economic costs, as was the case with asbestos, leaded petrol and tobacco.”
Yn 2013, pwysleisiodd adroddaid gan Asiantaeth yr Amgylchedd (Ewrop) rym diwydiant i greu dryswch ynglŷn â’r peryglon sy’n gysylltiedig â thecholeg newydd:
“Manufacturing doubt, disregarding scientific evidence of risks and claiming over-regulation appear to be a deliberate strategy for some industry groups and think tanks to undermine precautionary decision-making.”
Disgrifiodd yr epidemiolegydd Americanaidd David Michaels sut mae diwydiant yn gweithio:
“Attack the science. Ignore the science. Demand of the science something neither it nor any institution possesses: absolute certainty. Erring on the side of protecting people's health when the potential harm is great (death from cancer would seem to qualify) is a fundamental public health principle. It should not be too much to ask of our great industrial corporations, but apparently they disagree.”
Dro ar ôl tro, anwybyddwyd rhybuddion gan wyddonwyr arbenigol a meddygon sy’n gweithio yn y maes, am fod diwydiannau’n mynnu cael tystiolaeth “gydweddol”, tystiolaeth ddiffiniol yn dangos niwed, neu fanylion o’r union fecanwaith sy’n achosi niwed. Mae’r gost o anwybyddu’r rhybuddion yn uchel yn nhermau lles, iechyd wedi’i niweidio a bywydau wedi’u colli.
Tuedd Gyllidol
Yn 2006, adeiladodd Yr Athro Henry Lai o Brifysgol Washington yn yr UD, fas data yn dangos maint o gyllid a oedd ar gael ar gyfer astudiaethau ar effeithiau biolegol ymbelydredd amledd radio. Y mae ei ddata yn arddangos tuedd gyllidol, lle y mae ffynhonnell y cyllid ar gyfer ymchwil wyddonol yn dylanwadu ar y canlyniadau: nid yw astudiaethau sy’n cael eu hariannu gan ddiwydiant wedi dod o hyd i unrhyw effeithiau ar y cyfan, ond y mae astudiaethau sy’n cael eu hariannu y tu allan i ddiwydiant wedi darganfod effeithiau biolegol.
Astudiaethau sy’n cael eu hariannu gan ddiwydiant
Astudiaethau sy’n cael eu hariannu y tu allan i ddiwydiant
Y mae diwydiant yn ymwybodol o’r peryglon i iechyd y cyhoedd.
Gwelir rhybuddion nawr ar ffonau clyfar a thabledi – er eu bod yn anodd i’w gweld – yn cynghori’r defnyddwyr i gadw pellter rhwng y ddyfais a’u cyrff:
“To reduce exposure to RF energy, use a hands-free option, such as the built-in speakerphone, the supplied headphones, or other similar accessories. Carry [the phone] at least 5mm away from your body to ensure exposure levels remain at or below the as-tested levels. Cases with metal parts may change the RF performance of the device, including its compliance with RF exposure guidelines, in a manner that has not been tested or certified.”
Hefyd, mae’r rhan fwyaf o rieni’n anymwybodol bod Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori plant o dan 16 i ddefnyddio ffonau symudol pan fo angen yn unig a chadw’r galwadau’n fyr.
Dywed rhai cwmnïoedd yswriant nad ydynt yn fodlon yswirio am niwed i’ch iechyd trwy ymbelydredd amledd radio:
“The Electromagnetic Fields Exclusion (Exclusion 32) is a General Insurance Exclusion and is applied across the market as standard. The purpose of the exclusion is to exclude cover for illnesses caused by continuous long-term non-ionising radiation exposure i.e. through mobile phone usage.”